Nod y sioeau teithiol yw helpu pobl i roi hwb i’w lles - yn ariannol, yn feddyliol ac yn gorfforol.
Fe wnaethom sefydlu Byw'n Dda ar Lai fel ymateb uniongyrchol i'r pwysau sy’n deillio o’r cynnydd mewn costau byw, yn ogystal ag effeithiau parhaus y pandemig. Rydym yn cynnal sioeau teithiol am ddim mewn lleoliadau ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, lle gall pobl ddod i gael cyngor a chymorth.
Nod y sioeau teithiol yw helpu pobl i roi hwb i’w lles - yn ariannol, yn feddyliol ac yn gorfforol. Bydd gennym banel cryf o arddangoswyr ar gyfer pob digwyddiad, a byddant yn cynnig cymorth a chyfeiriadau ar y diwrnod yn ogystal ag adnoddau i fynd adref gyda chi.
Mae ein harddangoswyr yn newid ym mhob digwyddiad ond byddant bob amser yn cynnwys cyfuniad da o sefydliadau lleol a chenedlaethol. Dyma banel ein sioe deithiol yn Aberdâr.
Merthyr | Eglwys y Bedyddwyr Stryd Fawr | Ebrill 21 - https://www.eventbrite.co.uk/e/living-well-for-less-roadshow-merthyr-tickets-294717527057
Pontypridd | Eglwys Undebol Dewi Sant | Ebrill 29 -
https://www.eventbrite.co.uk/e/living-well-for-less-roadshow-pontypridd-tickets-300587243537
Os hoffech chi arddangos mewn sioe deithiol byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
T: 01443 490650
F: 01443 490879
E: information@acmorgannwg.org.uk