Gall cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn wneud byd o wahaniaeth.
Gwasanaeth cyfrinachol ac annibynnol sy'n cynnig ystod eang o wybodaeth a chyngor i helpu pobl i aros yn annibynnol, yn eu cartref eu hunain ac i wneud y mwyaf o'u hincwm
Mae ein Tîm Gweithiwr Cefnogi yn darparu cefnogaeth un i un i bobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd byw yn annibynnol. Gall hyn fod yn dilyn profedigaeth neu yn dilyn diagnosis megis dementia
Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol yno i bobl sydd angen cymorth ychwanegol i siarad i fyny ac i herio'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am eu bywydau.
Mae cynllun Ymestyn yn cefnogi pobl hŷn 50+ oed yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phenybont-ar-Ogwr, sydd wedi eu hynysu yn gymdeithasol, neu'n unig yn emosiynol, ac i'w cefnogi i gynnal ffordd o fyw iach ac annibynnol.
Ydych chi neu rywun rydych yn nabod yn cael hi’n anodd torri eu hewinedd traed neu ddwylo eu hunain? Peidiwch â phoeni, mae help wrth law gyda'n gwasanaeth torri ewinedd fforddiadwy.
Mae’r Fforymau Pumdeg Plus yn grŵp annibynnol o bobl dros hanner cant sy’n cwrdd i drafod materion sy'n effeithio ar fywydau pobl hŷn yn yr ardal lleol. Yn y cyfarfodydd ceir y ddadl ddiddorol a chyffrous am ystod eang o faterion.
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
T: 01443 490650
F: 01443 490879
E: information@acmorgannwg.org.uk