Gwasanaeth Ysbyty i Adref
Mae ein Gwasanaeth Rhyddhau o'r Ysbyty yn darparu 6-8 wythnos o gefnogaeth i bobl dros 50 oed sydd wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty'n ddiweddar. Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful ac ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae llawer o bobl hŷn yn byw eu pennau eu hunain neu gyda phartner oedrannus neu berthynas. Ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, gall y newid o ward yr ysbyty i amgylchedd y cartref fod yn drawmatig. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn o ail-addasu. Mae ein gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty yn ategu'r gwasanaethau a ddarperir gan asiantaethau eraill ac yn gallu cydgysylltu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth gyda darparwyr gwasanaeth eraill.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Allgymorth Cymunedol ar 01443 490650.