Dyddiad cau: Dydd Gwener 6 Medi 2024, 10.00am
£37,837 y flwyddyn
37 awr yr wythnos
Cytundeb parhaol
Hybrid 50/50 - yn y swyddfa: Cynon Linc, Aberdâr, CF44 7BD
Prif Swyddog Gweithredol
Rheolwyr Gwasanaeth
CV a Datganiad Ategol
Age Connects Morgannwg yw'r elusen flaenllaw sy'n gweithio gyda phobl hŷn yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful (ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg). Mae gennym hanes cadarn a thros 45 mlynedd o brofiad o gefnogi pobl hŷn a'u teuluoedd drwy rai o gyfnodau anoddaf eu bywyd. Rydym yn cael ein cydnabod hefyd am wrando ar bobl hŷn, dysgu beth sy'n bwysig iddyn nhw a gofalu am y ffordd maen nhw'n cael eu trin, eu gweld, a'u portreadu.
Pennaeth Datblygu’r Elusen – Crynodeb Swydd
Ydych chi’n arweinydd deinamig sy’n chwilio am gam nesaf eich gyrfa ac yn awyddus i dderbyn her newydd gyffrous?
Rydym yn recriwtio Pennaeth Datblygu’r Elusen talentog, a fydd yn arwain twf a dulliau arallgyfeirio Adran Gwasanaethau yr Elusen a gwaith cyflawni gweithredol tîm hynod fedrus a chymwys. Mae’r rôl hon yn cynnig yr ymreolaeth a’r rhyddid i arwain yn eich ffordd eich hun, i archwilio eich greddf entrepreneuraidd ac i lunio opsiynau cymorth cynaliadwy i bobl hŷn.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad blaenorol o reoli sawl maes gwasanaeth yn ogystal â thwf busnes gan ddefnyddio ffynonellau incwm hybrid a rhywun sy’n brofiadol wrth ddefnyddio data ac ymchwil i'r farchnad i lunio cynlluniau gweithredol. Byddwch yn arweinydd ysgogol sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi drwy hyfforddi i fedru llwyddo. Yn bwysicaf oll, bydd eich swyddi blaenorol wedi dangos eich bod wedi cael effaith amlwg a chadarnhaol ar bobl.
Disgrifiad Swydd
Bydd Pennaeth Datblygu’r Elusen yn arwain ac yn datblygu Adran Datblygu’r Elusen gyda chefnogaeth tîm o Reolwyr Gweithredol i gyflawni Cynllun Strategol tair blynedd yr elusen sef ‘Gyda’n gilydd ar gyfer Pobl Hŷn’. Drwy weithio ochr yn ochr â’r uwch dîm arwain a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, byddwch yn sicrhau ein bod yn gweithredu ein blaenoriaethau strategol mewn modd cynaliadwy, gyda charedigrwydd ac ymrwymiad i ddatblygu gweithlu’r elusen o staff cyflogedig a gwirfoddolwyr. Mae'r rôl hon yn ganolog i lwyddiant yr elusen fel llais i bobl hŷn, ac fel darparwr gwasanaeth, ac fel y cyflogwr a ddewisir.
Crynodeb o'r Swydd – Prif Gyfrifoldebau
Arweinyddiaeth a Rheolaeth: Arwain a datblygu tîm deinamig o safon uchel i ddarparu cymorth a gwasanaethau i bobl hŷn, sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr elusen – sef gwrando, dysgu a gofalu. Byddwch wedi ymrwymo i dwf yr elusen drwy gyfleoedd gwirfoddoli a dysgu gydol oes.
Datblygu a Thwf: Gweithio drwy'r tîm gweithredol i ganfod cyfleoedd a meysydd o dwf cynaliadwy yn unol â'r Cynllun Strategol. Llunio a datblygu portffolio gwasanaeth yr elusen i ddiwallu anghenion pobl hŷn ac er mwyn cefnogi rhaglenni iechyd cyhoeddus lleol a chenedlaethol, rhaglenni lles, a rhaglenni gwella diwylliannol. Datblygu cynllun cynhyrchu incwm sy'n sicrhau incwm cynaliadwy i gefnogi ein gwaith.
Effaith a Chyrhaeddiad: Gweithio ochr yn ochr â'r tîm Rheoli Gweithrediadau a'r tîm gweithredol i ganfod a deall yr effaith y mae ein gwasanaethau'n ei gael ar fywydau pobl hŷn, gan roi system o fonitro perfformiad a gwerthuso gwasanaethau ar waith sy'n dangos y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud.
Er mwyn cael sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rachel Rowlands, y Prif Swyddog Gweithredol ar 07969 758526 neu rachel.rowlands@acmorgannwg.org.uk. Cysylltwch â ni er mwyn cael copi o’n Dogfen Strategaeth ddiweddaraf, sy’n rhoi gwybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer twf, perfformiad diweddar a gwybodaeth gefndirol gyffredinol am yr elusen. Er mwyn cael gwybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk ac www.cynonlinc.org.uk. . Er mwyn cael gwybodaeth hanesyddol am waith a pherfformiad yr elusen ewch i www.charitycommission.gov.uk a chwilio am Age Concern Morgannwg neu Rif Elusen 1129973.
Anfonwch eich CV (dim mwy na 2 x ochr A4) a Datganiad Ategol (dim mwy na 3 x ochr A4) sy’n dangos sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf sy’n cael eu rhestru yn y Fanyleb Person ac sy’n rhoi enghreifftiau sy’n dangos pa nodweddion personol y byddwch yn eu cyfrannu i’r sefydliad. Hefyd, darparwch baragraff o ddim mwy na 200 gair sy’n egluro pam yr ydych yn dymuno gweithio i Age Connects Morgannwg.
Er mwyn cael arweiniad ar sut i baratoi CV ewch i https://uk.indeed.com/career-advice/cvs-cover-letters a Datganiad Ategol https://uk.indeed.com/career-advice/cvs-cover-letters/how-to-write-a-supporting-statement
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
T: 01443 490650
F: 01443 490879
E: information@acmorgannwg.org.uk