Technegydd Ewinedd Achlysurol

TECHNEGYDD TORRI EWINEDD ACHLYSUROL


CYFLOG

£11.66 yr awr

ORIAU

Dros Dro

LLEOLIAD

Covering various locations in Bridgend, Merthyr Tydfil and Rhondda Cynon Taf

ADRODDIADAU I


Rheolwr Gwirfoddoli

CYFRIFOL AM

DULL YMGEISIO

CV a Datganiad Personol

Amdanom Ni

Age Connects Morgannwg yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful (ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg). Mae gennym hanes cryf gyda dros 45 mlynedd o gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae gennym hefyd hanes profedig o wrando ar bobl hŷn, dysgu beth sy'n bwysig iddynt a gofalu am y ffordd y cânt eu trin, eu canfod a'u portreadu.

Am y Swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn gweithio’n achlysurol, yn darparu gwasanaeth torri ewinedd proffesiynol i gleientiaid ein gwasanaeth Simply Nails.


Prif Gyfrifoldebau


  • Darparu gwasanaeth torri ewinedd proffesiynol i gleientiaid yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
  • Trefnu apwyntiadau mewn eiddo preswyl, clinigau cymunedol neu gartrefi gofal, yn ôl y gofyn.
  • Cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau o ran defnyddio offer torri ewinedd yn ddiogel yn unol â’r hyfforddiant a dderbyniwyd.


Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd llawn isod.

Pam Gweithio i Ni?

  • 25 o ddyddiau o wyliau bob blwyddyn (pro rata).
  • Diwrnod i ffwrdd ar eich pen-blwydd.
  • Cynllun Pensiwn.
  • Cynllun Cymorth i Weithwyr.
  • Croeso cynnes, rhaglen ymsefydlu a hyfforddiant i’ch cynorthwyo yn eich rôl.
I LAWR DDISGRIFIAD SWYDD

Barod i Ymgeisio?

Anfonwch eich CV (dim mwy na 2 x ochr A4) a Datganiad Ategol (uchafswm o 1,500 o eiriau) sy'n dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf sy’n cael eu rhestru yn y Fanyleb Person ac sy’n rhoi enghreifftiau sy'n dangos pa nodweddion personol y byddwch yn eu cyflwyno i'r sefydliad.

Dim ond ymgeiswyr a gyflwynodd eu CV a'u Datganiad Ategol fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.


Er mwyn cael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â recruit
@acmorgannwg.org.uk   


Er mwyn cael gwybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk ac www.cynonlinc.org.uk

Ffurflen Gais

Cais Datblygu Pennaeth Elusen

I consent to Age Connects Morgannwg collecting and storing my data from this form and contacting me. For full details on how we use your data please read our Polisi Preifatrwydd

Pob Swydd Wag


I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol, cliciwch ar y botwm Ymgeisio Nawr.

Share by: