£11.66 yr awr
Dros Dro
Cynon Linc
Aberdare
CF44 7BD
Rheolwr Lletygarwch
CV a Datganiad Personol
Age Connects Morgannwg yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful (ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg). Mae gennym hanes cryf gyda dros 45 mlynedd o gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae gennym hefyd hanes profedig o wrando ar bobl hŷn, dysgu beth sy'n bwysig iddynt a gofalu am y ffordd y cânt eu trin, eu canfod a'u portreadu.
Dyma rôl newydd a fydd yn rhan o dîm newydd cyffrous a fydd yn sicrhau fod pob un o gwsmeriaid Caffi a Siop Goffi’r Ganolfan yn cael profiad cadarnhaol ac y byddant eisiau dychwelyd dro ar ôl tro. O dan gyfarwyddyd y Rheolwr Lletygarwch / Cogydd bydd y rôl hon yn helpu i baratoi bwyd yn y gegin i sicrhau bod Caffi a Siop Goffi’r Ganolfan yn gweithredu'n gyflym ac ar yr un pryd yn cynnal lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid, glendid, a gwasanaeth.
Fel rhan greiddiol o'r Criw Arlwyo mae bod yn gwrtais, clên a chroesawus yn hanfodol.
Cyfrifoldebau Cyffredinol
Bydd y swydd yn cynnwys dwy elfen:
Gweithredol
Gwasanaeth cwsmer
Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd llawn isod.
Anfonwch eich CV (dim mwy na 2 x ochr A4) a Datganiad Ategol (uchafswm o 1,500 o eiriau) sy'n dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf sy’n cael eu rhestru yn y Fanyleb Person ac sy’n rhoi enghreifftiau sy'n dangos pa nodweddion personol y byddwch yn eu cyflwyno i'r sefydliad.
Dim ond ymgeiswyr a gyflwynodd eu CV a'u Datganiad Ategol fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.
Er mwyn cael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â recruit@acmorgannwg.org.uk
Er mwyn cael gwybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i
www.ageconnectsmorgannwg.org.uk ac
www.cynonlinc.org.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol, cliciwch ar y botwm Ymgeisio Nawr.
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
T: 01443 490650
F: 01443 490879
E: information@acmorgannwg.org.uk