Dyddiad cau: hanner nos, 11 Ebrill 2025
£24,705 y flwyddyn
37 awr yr wythnos
Hyd y contract - tymor penodol tan 31 Mawrth 2028
Gweithio yn y gymuned ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr
Dim
CV a llythyr eglurhaol
Age Connects Morgannwg yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful (ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg). Mae gennym hanes cryf gyda dros 45 mlynedd o gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae gennym hefyd hanes profedig o wrando ar bobl hŷn, dysgu beth sy'n bwysig iddynt a gofalu am y ffordd y cânt eu trin, eu canfod a'u portreadu.
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn?
Ydych chi’n wrandäwr da, yn awyddus i ddysgu ac yn rhywun sy’n poeni am eraill?
Ydych chi’n credu fod mynediad i wybodaeth a chyngor o safon uchel yn hanfodol er mwyn helpu pobl i wella eu bywydau?
Os ydych chi wedi ateb ‘Ydw’ i’r cwestiynau hyn, byddem wrth ein bodd yn cydweithio â chi.
Mae gennym gyfle cyffrous i’r ymgeisydd cywir i ymuno â’n Tîm Cymunedau Cysylltiedig ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful fel Gweithiwr Achosion Cynghori Cymunedol.
Darllenwch am fanylion y swydd yma a gwnewch gais heddiw.
Edrychwch ar fanylion y swydd yma a gwnewch gais heddiw.
Anfonwch eich CV (dim mwy na 2 x ochr A4) a Datganiad Ategol (uchafswm o 1,500 o eiriau) sy'n dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf sy’n cael eu rhestru yn y Fanyleb Person ac sy’n rhoi enghreifftiau sy'n dangos pa nodweddion personol y byddwch yn eu cyflwyno i'r sefydliad.
Dim ond ymgeiswyr a gyflwynodd eu CV a'u Datganiad Ategol fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rôl cysylltwch â ni ar recruit@acmorgannwg.org.uk.
I gael gwybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk a www.cynonlinc.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, dydd Gwener 11 Ebrill 2025.
I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol, cliciwch ar y botwm Ymgeisio Nawr.
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
T: 01443 490650
F: 01443 490879
E: information@acmorgannwg.org.uk