Dyddiad cau: 10am, 17 Ionawr 2024
£28,500 y flwyddyn FTE
37 awr yr wythnos
Hyd y contract - tan 31 Medi 2025
Rhannu swydd posib – swydd – 18.5 awr yr wythnos.
Safloedd gofal aciwt ar hyd a lled Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (prif leoliad - RGH; yn achlysurol - POW, YTS)
Neb
CV a Datganiad Ategol
Age Connects Morgannwg yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful (ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg). Mae gennym hanes cryf gyda dros 45 mlynedd o gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae gennym hefyd hanes profedig o wrando ar bobl hŷn, dysgu beth sy'n bwysig iddynt a gofalu am y ffordd y cânt eu trin, eu canfod a'u portreadu.
Diben a chwmpas y Gwasanaeth Aseswyr Dibynadwy
Prif gyfrifoldeb y gwasanaeth Aseswyr Dibynadwy yw lleihau oedi wrth asesu a chefnogi rhyddhau effeithiol o'r ysbyty drwy gydlynu asesiadau cymesur a hwyluso trosglwyddo cleifion i'r llwybr D2RA cywir.
Rôl yr aseswr dibynadwy fydd gweithio'n rhagweithiol gyda staff wardiau, timau rhyddhau, cleifion a'u teuluoedd trwy gydlynu a hwyluso asesiadau cymesur drwy broses drosglwyddo gofal. Er mwyn cyflawni hyn, bydd yr Aseswyr Dibynadwy yn defnyddio'r dogfennau asesu Trosglwyddo Gofal Electronig (E-Toc) ac yn cefnogi ei ddatblygiad a'i weithredu ymhellach.
Bydd Aseswyr Dibynadwy yn darparu dull seiliedig ar asedau o gefnogi ac yn darparu cymorth ymarferol i atal oedi cyn rhyddhau, a allai hefyd gynnwys atgyfeirio at ddarpariaeth trydydd sector a'r gymuned.
Anfonwch eich CV (dim mwy na 2 x ochr A4) a Datganiad Ategol (uchafswm o 1,500 o eiriau) sy'n dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf sy’n cael eu rhestru yn y Fanyleb Person ac sy’n rhoi enghreifftiau sy'n dangos pa nodweddion personol y byddwch yn eu cyflwyno i'r sefydliad.
Dim ond ymgeiswyr a gyflwynodd eu CV a'u Datganiad Ategol fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.
Er mwyn cael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rheolwr Rhaglen Home First, Delyth Williams at delyth.williams@acmorgannwg.org.uk.
Er mwyn cael gwybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk ac www.cynonlinc.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10.00am, Dydd Mercher, 8 Ionawr 2024
Dyddiad y cyfweliad - i gael ei gadarnhau.
I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol, cliciwch ar y botwm Ymgeisio Nawr.
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
T: 01443 490650
F: 01443 490879
E: information@acmorgannwg.org.uk