Pennaeth Cyllid a Chymorth Busnes

PENNAETH CYLLID A CHEFNOGAETH BUSNES


Dyddiad cau: Dydd Gwener 6 Medi 2024, 10.00am

CYFLOG

£37,837 y flwyddyb

ORIAU

37 awr yr wythnos Cytundeb parhaol

LLEOLIAD

O leiaf 50% yn y swyddfa yn  Cynon Linc, Aberdâr, CF44 7BD

ADRODDIADAU I

Prif Swyddog Gweithredu

CYFRIFOL AM

Tîm Cymorth Busnes

DULL YMGEISIO

CV a Datganiad Ategol 

Amdanom Ni

Age Connects Morgannwg yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful (ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg). Mae gennym hanes cryf gyda dros 45 mlynedd o gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae gennym hefyd hanes profedig o wrando ar bobl hŷn, dysgu beth sy'n bwysig iddynt a gofalu am y ffordd y cânt eu trin, eu canfod a'u portreadu.

Am y Swydd

LAWRLWYTHO SWYDD DDISGRIFIAD

Crynodeb o Swydd Pennaeth Datblygu Elusennau


Ydych chi'n arweinydd deinamig sy'n edrych am eich symudiad gyrfa nesaf a her newydd gyffrous?


Rydym yn recriwtio Pennaeth Cyllid a Chymorth Busnes dawnus, a fydd yn arwain Tîm Cymorth Busnes bach i ddarparu gwasanaethau cyllid, adnoddau dynol a llywodraethu o ansawdd uchel a chymorth i’n staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr.


Rydym yn chwilio am rywun sydd â chefndir ariannol cryf a phrofiad o weithio mewn rôl amlochrog i elusen neu sefydliad di-elw. Ochr yn ochr â’r uwch dîm arwain, byddwch yn datblygu ac yn gweithredu strategaethau ac arferion sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd ac yn hyrwyddo sefydlogrwydd a chynaliadwyedd. Mae'r rôl hon yn ganolog i lwyddiant yr elusen fel darparwr gwasanaeth, ac fel cyflogwr o ddewis.


Disgrifiad Swydd


Bydd y Pennaeth Cyllid a Chymorth Busnes yn arwain ac yn datblygu’r Tîm Cymorth Busnes i ddarparu gwasanaethau cyllid, adnoddau dynol a llywodraethu o ansawdd uchel a chefnogaeth i’n staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr. Fel y cyfryw, bydd gennych gefndir ariannol cryf a phrofiad o weithio mewn rôl amlochrog i elusen neu sefydliad dielw.  Rydym wedi ymrwymo i wneud yr elusen yn lle gwych i weithio, lle mae gweithwyr a gwirfoddolwyr yn mwynhau telerau ac amodau cystadleuol, yn cael eu cefnogi i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a chael cyfleoedd i dyfu a ffynnu. Ochr yn ochr â’r uwch dîm arwain, byddwch yn datblygu ac yn gweithredu strategaethau ac arferion sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd ac yn hyrwyddo sefydlogrwydd a chynaliadwyedd. Mae'r rôl hon yn ganolog i lwyddiant yr elusen fel darparwr gwasanaeth, ac fel cyflogwr o ddewis.


Amcanion Allweddol

 

  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth: Arwain a datblygu tîm deinamig o safon uchel i gynorthwyo a darparu gwasanaethau isadeiledd yr elusen. Byddwch wedi ymrwymo i dwf a datblygiad yr elusen drwy gyfleoedd gwirfoddoli a dysgu gydol oes. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr a’r Bwrdd i yrru, dylanwadu, cynghori a chefnogi agweddau sy’n gysylltiedig â diwylliant a phobl o ran newid sefydliadol, dylunio, cynllunio'r gweithlu, prosesau pobl a mentrau gwella busnes. Cefnogi amcanion sefydliadol ehangach gan gynnwys trawsffurfio digidol a chynnydd tuag at sero net drwy eich gwaith.
  •  Llywodraethu Cryf: Gweithio gyda'r Prif Swyddog Gweithredol (Ysgrifennydd y Cwmni) a'r Bwrdd i roi systemau, prosesau ac arferion cadarn, tryloyw ac effeithiol ar waith sy'n adlewyrchu ac yn hyrwyddo llywodraethiant da. Darparu arweiniad ar strwythur cyfreithiol yr elusen, gan ystyried ei model(au) gweithredol a gweithgareddau amrywiol, er mwyn sicrhau bod yr elusen yn defnyddio ei hadnoddau yn effeithlon ac yn effeithiol.
  •  Datblygu a Thwf: Gweithio gyda’r uwch dîm arwain a rheoli gweithredol i ganfod cyfleoedd a meysydd o dwf cynaliadwy yn unol â'r Cynllun Strategol. Llunio a datblygu Cynllun Datblygu Gweithlu’r elusen, gan roi sylw i bwysigrwydd recriwtio effeithiol, hyrwyddo lles yn y gwaith a chyfleoedd ar gyfer twf personol. Cyfrannu at ddatblygu cynllun cynhyrchu incwm sy’n sicrhau incwm cynaliadwy i gefnogi ein gwaith, ac sy’n cynnal ein nod strategol o gynhyrchu 60% o incwm o ffynonellau anghyfyngedig ac annibynnol. 

Barod i Ymgeisio?

Er mwyn cael sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rachel Rowlands, y Prif Swyddog Gweithredol ar 07969 758526 neu rachel.rowlands@acmorgannwg.org.uk.   Cysylltwch â ni er mwyn cael copi o’n Dogfen Strategaeth ddiweddaraf, sy’n rhoi gwybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer twf, perfformiad diweddar a gwybodaeth gefndirol gyffredinol am yr elusen. Er mwyn cael gwybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk ac www.cynonlinc.org.uk.

 

Anfonwch eich CV (dim mwy na 2 x ochr A4) a Datganiad Ategol (dim mwy na 3 x ochr A4) sy’n dangos sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf sy’n cael eu rhestru yn y Fanyleb Person ac sy’n rhoi engheifftiau sy’n dangos pa noweddion personol y byddwch yn eu cyfrannu i’r sefydliad. Hefyd, darparwch baragraff o ddim mwy na 200 gair sy’n egluro pam yr ydych yn dymuno gweithio i Age Connects Morgannwg. 

 

Er mwyn cael arweiniad ar sut i baratoi CV ewch i https://uk.indeed.com/career-advice/cvs-cover-letters a Datganiad Ategol https://uk.indeed.com/career-advice/cvs-cover-letters/how-to-write-a-supporting-statement   

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, dydd Gwener, 6 Medi 2024. 

Ffurflen Gais

Cais Pennaeth Cyllid a Chymorth Busnes

I consent to Age Connects Morgannwg collecting and storing my data from this form and contacting me. For full details on how we use your data please read our Polisi Preifatrwydd

Share by: