Dyddiad cau: 10am, 7 Chwefror 2024
£32,000 y flwyddyn
37 awr yr wythnos
Hyd y contract - tan fis Mawrth 2026 (yn amodol ar gyllid)
Swyddfa yn Cynon Linc, Aberdâr, CF44 7BD a swyddfeydd ategol ym mhob rhan o’r ardal
Pennaeth Datblygu’r Elusen
Cysylltwyr Dementia
CV a Datganiad Ategol
Age Connects Morgannwg yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful (ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg). Mae gennym hanes cryf gyda dros 45 mlynedd o gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae gennym hefyd hanes profedig o wrando ar bobl hŷn, dysgu beth sy'n bwysig iddynt a gofalu am y ffordd y cânt eu trin, eu canfod a'u portreadu.
Ydych chi'n chwilio am gyfle newydd i fod ar ddechrau’r broses o ddylunio rhaglen waith newydd. A oes gennych chi’r brwdfrydedd i ddarparu gwasanaethau i bobl â dementia ac sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau?
Rydym yn recriwtio Rheolwr Rhaglen profiadol a fydd â gwybodaeth a phrofiad sylweddol o weithio ym maes dementia. Mae'r rôl newydd hon yn cynnig cyfle i gyflwyno rhaglen sydd newydd ei lansio sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg ac fel y nodir yn "Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan" i ddarparu cyswllt penodol (cysylltwr) i gynnig cefnogaeth, cyngor a chyfeirio pobl â dementia a'u gofalwyr drwy gydol eu taith o’r diagnosis tan ddiwedd eu hoes.
Bydd eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau yn cael eu llywio gan yr hyn sy'n bwysig i bobl sy'n byw gyda dementia yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Bydd y rôl hon yn rheoli'r rhaglen ac yn cynnal llwyth bychan o achosion.
Byddwch hefyd y math o berson sy'n mwynhau canfod cyfleoedd newydd a herio'r status quo, gan sicrhau bod rhaglen ehangach Materion Dementia ACM yn ymateb i'r hyn y mae pobl â dementia yn ei ddweud wrthym.
Bydd y rôl yn rheoli tîm bach o Gysylltwyr Dementia ac yn gweithredu ledled ardal Cwm Taf Morgannwg sy'n cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr a Rhondda Cynon Taf.
Anfonwch eich CV (dim mwy na 2 x ochr A4) a Datganiad Ategol (dim mwy na 3 x ochr A4) sy'n dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf sy’n cael eu rhestru yn y Fanyleb Person ac sy’n rhoi enghreifftiau sy'n dangos pa nodweddion personol y byddwch yn eu cyflwyno i'r sefydliad.
Er mwyn cael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rachel Rowlands, Prif Swyddog Gweithredol, ar 07969 758526 neu rachel.rowlands@acmorgannwg.org.uk.
Er mwyn cael gwybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk ac www.cynonlinc.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10.00am, Dydd Mercher, 7 Chwefror 2024.
Dyddiad y cyfweliad, Dydd Mercher, 14 Chwefror 2024
I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol, cliciwch ar y botwm Ymgeisio Nawr.
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
T: 01443 490650
F: 01443 490879
E: information@acmorgannwg.org.uk